Prosiect Cymunedol Bethlehem Chapel
Diweddariad Pwysig!!!
Diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch i godi arian i’n grŵp cymunedol i fynychu’r arwerthiant cyhoeddus heno ym Maenordy Llwyngwair i gynnig am adeilad Capel Bethlehem yn Nhrefdraeth. Mae gennym newyddion da i gyhoeddi ein bod wedi sicrhau’r bid uchaf am yr adeilad sef £145,000. Diolch unwaith eto i bawb sydd wedi bod mor hael a chefnogol i sicrhau bod yr arian wedi’i godi o fewn 14 diwrnod. Ymlaen a ni yn awr i ddatblygu’r ganolfan treftadaeth i Tydrath.
Cefnogaeth Leol
Cyfrif Go Fund Me – am rhoddion at yr achos cliciwch ar y ddolen yma ac yna teipiwch Canolfan Bethlehem yn y bwlch chwilio: https://www.gofundme.com/en-gb
Canolfan Dreftadaeth A Diwyllianol Newydd-Gydag Ardal Celfyddydau, Caffi a Thai Cymunedol Posib i Drefdraeth
Yn dilyn cyfarfod poblogaidd yn neuadd goffa Trefdraeth ar ddechrau mis Ebrill 2024, mae Grŵp Canolfan Bethlehem wedi bod yn gweithio’n galed iawn i brynu’r capel ar gyfer y gymuned. Ein gweledigaeth yw creu canolfan dreftadaeth ffyniannus, arloesol a chynhwysol, gyda’n hiaith a’n diwylliant Cymreig yn ganolog i ddiogelu, ysbrydoli a chynnwys pawb wrth adrodd hanes cyfoethog Trefdraeth. I’r perwyl hwn byddwn yn archwilio ac yn anelu at brynu Capel Bethlehem fel lleoliad canolfan treftadaeth ddiwylliannol gymunedol Trefdraeth.
Mae Capel Bethlehem yn adeilad hanesyddol pwysig i’r dref ac fe fydd yn mynd i ocsiwn ar y 30ain o Awst ac wedi methu â negodi cytundeb i ganiatáu i’r gymuned brynu’r capel RYDYM ANGEN CODI £150,000 neu mwy, yn yr wythnosau nesaf. Mae gennym rywfaint o arian eisoes gan fenthycwyr preifat hael sydd wedi cytuno i roi benthyciad tymor byr hyd nes y gellir lansio cynnig cyfranddaliadau. MAE ANGEN MWY O FENTHYCWYR PREIFAT sy’n fodlon gwneud yr un peth. Mae enghreifftiau gwych o fenthycwyr preifat yng Nghymru sydd wedi sicrhau bod adeiladau cymunedol pwysig yn cael eu cadw yn nwylo ceidwaid lleol. Cefnogwyd yr hen Orsaf Heddlu a Llys yn Aberteifi gan un teulu a fenthycodd £250,000 i ganiatáu i’r cwmni cydweithredol lleol 4CG Cymru brynu’r adeilad ar gyfer prosiect cymunedol, gweler www.facebook.com/pwllhai . Enghraifft arall yw Ty’n Llan, tafarn Sioraidd coetsis a brynwyd gan fenthycwyr lleol a gododd £460,000 i brynu’r safle fel benthyciad pontio nes i gynnig cyfranddaliadau cymunedol ad-dalu’r benthycwyr preifat. www.tynllan.cymru
Mae benthyciwr preifat yn derbyn llog cystadleuol ar eu benthyciadau ac mae gan fenthycwyr symiau mawr hefyd arwystl cyfreithiol ar yr adeilad.
A allech chi fod yn un o’r benthycwyr cymunedol hyn, neu a ydych chi’n adnabod unrhyw un a allai gynnig achubiaeth i grŵp Bethlehem i gadw’r adeilad at ddefnydd cymunedol?
Cysylltwch â ni os gallwch chi helpu neu os ydych chi’n adnabod rhywun all helpu i achub Bethlehem i ddefnydd bobol Trefdraeth yna e-bostiwch: capelbethlehem@gmail.com neu ffoniwch 07804487642 or 07301082304
Gweld y cyflwyniad a roddwyd yn y Cyfarfod Cyhoeddus: https://canolfanbethlehem.cymru/wp-content/uploads/2024/08/Bethlehem-Chapel.-Presentation.pdf
Gweld manylion y gwerthiant yma:
Dod o hyd i gytundeb benthygiad yma:
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (CaOyA) cliciwch yma:
Diolch i chi am ystyried cefnogi’r gymuned i gadw Capel Bethlehem fel adnodd hanesyddol a hoffus yn Nhefdraeth, fel ased cymunedol.
Sut alla i gyfrannu i helpu gyda chostau’r ymgyrch?
Mae yna wefan GoFundMe a fydd yn helpu i gefnogi gyda costau cychwynnol yr ymgyrch gymunedol – ewch i www.gofundme.com a chwiliwch Canolfan Bethlehem